Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd    

CF99 1NA

 

E-bost: SeneddFinance@Assembly.Wales

 

 

Ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i: Alwad Cynulliad Cenedlaethol Cymru am Dystiolaeth ar Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

 

 

Cyflwyniad

1.    Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio i sicrhau bod amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru’n cael eu cadw’n gynaliadwy, eu gwella’n gynaliadwy a’u defnyddio’n gynaliadwy, nawr ac yn y dyfodol.

 

2.    Rydym yn gyfrifol am sicrhau bod y diwydiant gwastraff yn cydymffurfio â’r gyfundrefn reoleiddio sydd wedi’i sefydlu fel na fydd gwastraff yn llygru’r amgylchedd nac yn niweidio iechyd pobl.  Yn ogystal â phenderfynu ceisiadau am y caniatadau amgylcheddol y mae eu hangen ar gyfer gweithgareddau gwastraff penodol, rydym hefyd yn archwilio’r safleoedd hynny i sicrhau cydymffurfio ac yn cymryd camau  gorfodi pan fydd angen. Rydym yn rhoi trosolwg strategol ar reoli gwastraff, gan gynnwys monitro’r gwastraff mae Awdurdodau Lleol yn ei gynhyrchu a’i ailgylchu. Rydym yn defnyddio amrywiaeth o offerynnau archwilio a phwerau gorfodi yn y frwydr yn erbyn troseddau gwastraff.

 

3.    Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn croesawu’r cyfle i ddarparu tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid ar Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) (y Bil).

 

4.    Mae Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, wedi cadarnhau y bydd gennym ran yn y gwaith cydymffurfio a gorfodi ar LDT ac rydym wrthi’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru (LlC) ac Awdurdod Refeniw Cymru (ARC) sydd i gael sefydlu’n fuan ar yr hyn fydd y rhan honno.  Mae CNC hefyd wedi asesu’r Bil o ran ei effaith arnom ni fel cyrff cyhoeddus amgylcheddol annibynnol.

 

5.    Rydym yn cefnogi cyflwyno’r Bil ac wedi ymrwymo i ddefnyddio ein profiad i gyflawni’r rhan sydd wedi’i chynllunio ar ein cyfer wrth ddarparu system a all weithio. Rydym yn croesawu cydnabod bod gan CNC sgiliau ac arbenigedd i sicrhau cydymffurfio a gorfodi ar gyfer y dreth. Mae ein swyddogaeth bresennol mewn rheoleiddio amgylcheddol yn rhoi inni ddealltwriaeth o’r sector gwastraff a sut mae osgoi’r dreth wedi dod yn elfen sy’n achosi troseddu yn ystod y degawd diwethaf.

 

6.    Mae CNC nawr yn edrych ymlaen at weithio gydag ARC i ddarparu gwasanaeth penodol o gydymffurfio a gorfodi ar Dreth GwarediadauTirlenwi (TGT) yng Nghymru.  Rydym wedi ymrwymo i barhau i weithio’n adeiladol i ddarparu fframwaith gweithredol effeithiol. Rydym yn cydnabod bod rhaid i hyn gael ei seilio ar weithredwyr yn talu’r dreth gywir ar yr amser cywir, ond hefyd bod angen pwerau i ddelio â’r rheiny nad ydyn nhw’n gwneud hynny.

 

7.    Rydym yn cytuno â’r diwydiant gwastraff fod angen presenoldeb deallus ‘yn y maes’ er mwyn darparu gofynion y dreth yn effeithiol. Yn y dyfodol, drwy weithio mewn partneriaeth ag ARC, bydd ein tîm TGT yn dirprwyo mynediad i wybodaeth yn ymwneud â threth am weithgareddau mewn safleoedd penodol nad ydynt gennym ar hyn o bryd.  Bydd crynhoi gwybodaeth fel hyn rhwng CNC ac ARC yn darparu darlun nad yw ar gael ar hyn o bryd i CNC nac i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM), sydd ar hyn o bryd yn casglu Treth Tirlenwi yng Nghymru a Lloegr. Deallwn, pan rannwyd fel hyn yn yr Alban, fod y wybodaeth am agweddau amgylcheddol a threthiant y safleoedd tirlenwi wedi bod yn gyfle i ymchwilio ymhellach.

 

8.    Rydym yn croesawu defnyddio’r dreth ar Warediadau Heb Ganiatâd (UD) i atal y rheiny sy’n gweithredu heb i’r dulliau rheoli cywir fod mewn grym.  Rydym yn rhannu gydag ARC ein profiad o’r anhawster i adnabod ac erlyn troseddwyr dan ddeddfwriaeth amgylcheddol.  Rydym hefyd yn gweithio gyda Changen Rheoleiddio Gwastraff Llywodraeth Cymru i gryfhau ein pwerau presennol.

 

Egwyddorion cyffredinol y Bil a’r angen am ddeddfwriaeth

9.    Treth ar ymddygiad yw treth tirlenwi sydd, dros yr ugain mlynedd diwethaf, wedi llwyddo i ddargyfeirio gwastraff o dirlenwi a’i ddefnyddio, ei ailgylchu neu ei adfer. Mae ei lwyddiant yn y pen draw yn arwain at anfon llai i safleoedd tirlenwi, felly, nid codi arian yw ei nod.  Nid yw peidio â chymeradwyo canlyniadau’r Bil hwn yn cael ei gyfrif fel colli refeniw i Gymru – pe bae casglu’r dreth yn cael ei ddileu gan CThEM a heb ei chasglu yng Nghymru, byddai hefyd yn dileu offeryn i barhau ar y llwybr i gyrraedd gwastraff Sero yng Nghymru erbyn 2050 a sicrhau amcanion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy. Gallai Cymru hefyd weld llif o wastraff tirlenwi heb dreth o fannau eraill, a byddai hynny’n fuan yn llenwi mannau tirlenwi yng Nghymru.

 

Unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu’r darpariaethau hyn ac a yw’r Bil yn eu cymryd i ystyriaeth;

10. Mae gweithredwyr safleoedd tirlenwi a ganiateir yn gyfarwydd ag egwyddor taliadau treth tirlenwi, ac fel mae’r asesiad effaith rheoleiddiol yn ei ddweud, cymharol fach fydd y costau trawsnewid i TGT. Fodd bynnag, os bydd CThEM yn defnyddio’r newidiadau mewn Treth Tirlenwi maent yn eu bwriadu ym mis Ebrill mewn safleoedd yng Nghymru, bydd dwy set o newidiadau y byddai angen eu gwneud, a gallem weld gwrthwynebiad neu ddryswch. Byddai’n fuddiol i RIA roi ystyriaeth i hynny.

 

11.    Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf mae’r codiadau mewn Treth Tirlenwi wedi cynyddu’r dreth ar wastraff cyfradd safonol o £7 y dunnell fetrig i’w lefel bresennol, sef £8.60. Yn ogystal â dargyfeirio’r mathau iawn o wastraff i dirlenwi, mae hyn wedi achosi cynnydd cysylltiedig mewn gweithgarwch anghyfreithlon lle caiff defnyddiau gwastraff eu cam-ddisgrifio er mwyn cael y gyfradd is (£2.60) neu eu gadael yn anghyfreithlon i osgoi treth a thaliadau gwarediadau tirlenwi yn llwyr.  Rydym yn croesawu cyflwyno TGT i UD oherwydd bydd hyn yn offeryn arall yn y frwydr yn erbyn Troseddau Gwastraff, ond cydnabyddwn fod newid ymddygiad yr adran droseddol yn y diwydiant gwastraff yn anodd. 

 

12.    Bydd y gostyngiad mewn refeniw treth o Warediadau Wedi’u Caniatáu (AD) yn parhau, ond ni wyddys beth fydd y refeniw o UD. Efallai mai effaith y newid mewn ymyrryd rheoleiddio fydd achosi mwy o wastraff i AD neu gynyddu incwm drwy leihau cam-ddisgrifio.  

 

13.    Rydym yn disgwyl y bydd ymgynghori pellach eleni ar y cwestiwn a ddylai CNC gael pwerau criminal yn ychwanegol at eu pwerau sifil. Byddwn yn ymateb i’r ymgynghori pellach hwn, ond hoffem dynnu sylw at y ffaith ein bod yn cefnogi’n llawn y cais am bwerau criminal. Bydd adegau pan na ellir defnyddio pwerau criminal CNC, a gall fod perygl na fydd gan ARC y pwerau y mae arnyn nhw eu hangen i ymchwilio’n effeithiol.  Bydd achosion yn aml lle bydd osgoi neu efadu TGT yn digwydd ar yr un safleoedd â throseddau amgylcheddol eraill hefyd – er y bydd  hefyd achosion lle mae troseddau amgylcheddol yn digwydd e.e. osgoi treth mewn safle a ganiateir drwy yrru heibio’r bont bwyso. Byddwn yn parhau i gynghori am y pwerau y mae eu hangen i sicrhau bod gennym yr ymyriadau rheoleiddio TGT cywir yn yr achosion hynny.

 

A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil

14.    Ar ôl gweld yr adroddiadau ar lansio’r Bil, mae’n glir y bydd angen i ddisgwyliadau ynglŷn â sut y caiff y TGT ei ddefnyddio mewn gwarediadau llai heb eu caniatáu (a elwir yn dipio anghyfreithlon) gael eu trin yn ofalus. Rydym ni a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn glir pwy sy’n delio â pha fath o UD a bod gennym ein dau ein rhan i chwarae. Mae’r Ysgrifennydd Cabinet Mark Drakeford wedi dweud y dylai CNC ac Awdurdodau Lleol gael rhan o’r refeniw ychwanegol a ddaw i mewn o UD i ariannu adnoddau ar y maes gwaith hwnnw.  Mae croeso i hyn, ond eto gall gynyddu disgwyliadau ac felly edrychwn ymlaen at drafod sut y bydd y cymhelliad hwnnw’n gweithio mewn gwirionedd.

 

Goblygiadau ariannol y Bil (fel sydd wedi’i osod allan ym Mhennod 6 yn y Memorandwm Esboniadol);

15. Mae pwysau ariannol ar bob gwasanaeth cyhoeddus, a byddai peidio             â chael yr adnoddau cywir ar gael yn rhwystro hon rhag bod yn gyfundrefn effeithiol.

 

Priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfau (fel sydd wedi’i osod allan ym Mhennod 5 yn y Memorandwm);

16. Mae sawl cyfeiriad at is-ddeddfwriaeth yn y Bil, lle mae darpariaeth neu fanylion ychwanegol i gael eu darparu’n ddiweddarach, a’r gallu i wneud Rheoliadau i ddiwygio darpariaethau presennol y Bil. Y rhai sydd fwyaf perthnasol i CNC yw’r rheiny’n ymwneud â darparu pwerau treth criminal, yr hyn yw defnydd sy’n gymwys, a’r meini prawf Colli drwy Danio. Rydym yn croesawu’r cyfle i weithio gydag ARC i ddarparu hyn o fewn cyfyngiadau adnoddau a ddarperir.

 

17. Mae’n bwysig y gall y ddeddfwriaeth gael ei diwygio i adlewyrchu newidiadau mewn amcanion neu ymddygiad trethdalwyr, ac mae’r Bil hefyd yn darparu ar gyfer hyn.  Mae angen cydnabod effaith groniadol y posibilrwydd am newid ar drethdalwyr a rheoleiddwyr.  Wrth edrych ymlaen, bydd yn bwysig bod ymrwymiad i gynnal fersiwn wedi’i hatgyfnerthu o’r Ddeddf a’r Rheoliadau fel y gellir sicrhau’r nod o sicrhau eglurder.

 

A yw egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu polisi a deddfwriaeth dreth benodedig wedi eu dilyn

Bod yn deg i fusnesau ac unigolion sy’n eu talu;

Bod yn syml, gyda rheolau clir sy’n ceisio lleihau costau cydymffurfio a gweinyddu;

Cefnogi twf a swyddi sydd yn eu tro yn helpu mynd i’r afael â thlodi; a

Darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i drethdalwyr.

     

18. Mae’n ymddangos bod yr egwyddorion hyn wedi’u dilyn, ac rydym yn hyderus yr edrychir arnynt eto drwy gydol datblygiad yr is-ddeddfwriaeth, y canllawiau perthnasol a’r darpariaethau trawsnewid.

 

Y diffiniad o ‘warediad trethadwy’ a ‘defnyddiau sy’n gymwys’;

19. Mae angen rheoliadau amgylcheddol ar gyfer gwastraff nad oes eu hangen ar gyfer cynhyrchion.  Y rheswm yw y gall gwastraff fod wedi’i lygru, neu nad yw mwyach yn addas at ei defnyddio gwreiddiol nes    bod ei werth i’r deiliad yn lleihau neu wedi’i ddileu. Mae penderfynu a yw sylwedd neu wrthrych yn wastraff neu beidio yn aml yn amlwg (e.e. cynnwys y bin y bydd deiliad tŷ yn ei osod allan i’w gasglu), ond  weithiau nid yw’n amlwg (e.e. pridd o gloddio a ddefnyddir ar gyfer tirweddu).

 

20. Gelwir yr asesiad hwn o gyfraith a chanllawiau cyfraith achosion Ewrop i ddod i benderfyniad yn ‘ddiffiniad o wastraff’. Mae’n berthnasol i TGT gan fod ein profiad dros y degawdau diwethaf yn dweud wrthym fod diffiniad o herio gwastraff yn debygol o fod yn un o ymatebion y sawl sy’n gweithredu safle heb ei awdurdodi wrth gael rhybudd codi tâl. Yn yr un modd, gall y sawl sy’n gweithredu safle heb ei awdurdodi benderfynu nad yw defnydd sy’n cael ei ddefnyddio i greu twmpath sgrinio yn wastraff, ac felly ei fod am beidio â thalu TGT.

 

21. Gallai’r Bil gael ei roi ar brawf yn gyfreithiol, a hynny o reidrwydd yn ddrud o ran adnoddau.  Os bydd dadl nad yw defnydd yn wastraff, yna mae’n debyg y bydd angen delio â hynny drwy’r drefn farnwrol cyn y gellir mynd ar ôl rhybudd tâl TGT.  Bydd angen arolwg strategol ac adnoddau ar gyfer blaenoriaethu achosion TGT. Byddwn yn parhau i weithio i sicrhau rheoli disgwyliad ynglŷn â darparu refeniw o UD. 

22. Mae’r rhestr o weithgareddau tirlenwi yn Adran 8 yn y Bil wedi ei datgysylltu oddi wrth y diffiniad o ‘warediad trethadwy’ yn Adran 3, ond gallai leihau neu ddileu nifer yr heriau mewn safleoedd heb eu caniatáu wrth eu cymharu â’r rheiny mae Caethiwem yn eu cael ar hyn  o bryd. Bydd angen inni fonitro effaith hyn i sicrhau nad yw safleoedd sydd wedi’u caniatáu yn cael eu hanghymell i ail-ddefnyddio neu adfer gwastraff wrth weithredu’r safle.

                                                                   

23. Bydd rhestr o ddefnyddiau sy’n gymwys yn cael ei darparu mewn is-ddeddfwriaeth, felly byddwn yn ymateb bryd hynny.

 

Y darpariaethau ynglŷn â sut bydd y dreth yn cael ei chyfrif, gan gynnwys pwysau trethadwy defnydd a’r disgownt ar gyfer faint o ddŵr sydd ynddo;

 

24. Ar hyn o bryd does gennym ddim gwybodaeth pa eithriadau sydd  wedi’u hawlio neu eu cymeradwyo gan CThEM, ond credwn fod hwn yn faes cynnar i’w drafod gyda’r rheiny sy’n eu hawlio ar hyn o bryd.

 

Gweithredu cyfraddau treth ac a yw’r rhain yn diogelu’r ystwythder i ddelio â newidiadau’n ddiweddarach ar lefel Cymru a’r DG;

 

25.Cytunwn y dylai cyfraddau ar y cychwyn gael eu gosod mewn Rheoliadau. Er mwyn sicrhau bod unrhyw newidiadau’n cael eu hystyried yn briodol, byddai’n ddefnyddiol gwybod ymlaen llaw pa feini prawf y bydd unrhyw newidiadau arfaethedig yn cael eu hasesu yn eu herbyn neu’n amodol arnynt.  

 

Yr eithriadau arfaethedig;

 

26. Mae yna un eithriad newydd, ‘gwaredu nifer o eitemau ar yr un safle’,  sy’n ofynnol i ddelio â’r newidiadau a welir yn adran 8 ar ba weithgareddau safleoedd tirlenwi sydd i gael eu trin fel gwarediadau trethadwy. Mae’r eithriad arall, ar fannau claddu anifeiliaid anwes, yn gyson â’r eithriad presennol. 

 

Y rhyddhau arfaethedig;

 

27. Mae mwyafrif yr eithriadau presennol wedi eu hail-gategoreiddio fel rhyddhad ac nid yw’n newid yr effaith reoleiddio. Rydyn n’n croesawu’r craffu a ddefnyddir wrth gymeradwyo math a maint y gwastraff sydd i’w ddefnyddio wrth adfer.

 

Cynnwys gwaredu gwastraff heb ei ganiatáu mewn mannau heblaw safleoedd tirlenwi a ganiateir;

 

28. Mae CNC yn croesawu cynnwys hyn. Fodd bynnag, ein profiad ni fel rheoleiddiwr yw ein bod yn rhagweld her yma ar y cwestiwn a yw’r defnydd sy’n cael ei waredu yn wastraff.

 

Archwilio adeiladau er mwyn sicrhau atebolrwydd person i Dreth Gwarediadau Tirlenwi a rhannu gwybodaeth rhwng Awdurdod Refeniw Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol;

29. Rydym yn gweithio gyda LlC ar y pwerau y credwn eu bod yn ofynnol i ddarparu cydymffurfio a gorfodi TGT yn llwyddiannus. Byddwn yn ymateb i ymgynghoriadau yn y dyfodol am ddarparu pwerau criminal.

 

30. Mae’r ddarpariaeth ar gyfer rhannu gwybodaeth wedi’i chynnwys yn Adran 59, ac mae’n ymddangos ei bod yn ddewis (‘gellir datgelu’) yn hytrach na rhwymedigaeth i wneud hynny.  Ar ôl dweud hynny, bydd gan CNC drefniant i rannu gwybodaeth fel rhan o’i drefniadau gweithio gydag ARC. 

 

Dyletswydd trethdalwyr i wneud taliadau a thalu cosbau a llog mewn amgylchiadau penodol;

 

31. Mae’r rhain yn bwerau sifil a fydd yn cael eu darparu gan ARC, a hwythau’n monitro eu heffeithiolrwydd ar waith.

 

Sut mae cwmnïau, partneriaethau a chyrff yn cael eu trin o ran y darpariaethau a’r cyfrifoldeb dros gydymffurfio; a

 

32. Bydd angen i CNC fonitro effeithiolrwydd y darpariaethau hyn ar waith,  wrth inni adolygu manylion y wybodaeth a gyflwynir.

 

Sefydlu’r Cynllun Cymunedau Tirlenwi fel cynllun grant yn hytrach na chredyd treth, a’i ddatblygu y tu allan i’r Bil.

 

33. Mae’n ymddangos bod y cynllun arfaethedig yn sicrhau effeithiolrwydd cost. Gan y bydd yr ariannu ar gyfer y cynllun yn cael ei neilltuo o gyfanswm refeniw TGT (gan gynnwys treth o UD), yna mae’n ymddangos yn rhesymol i ni fod cymunedau sy’n bodloni’r un meini      prawf o gwmpas safleoedd UD yn gymwys i wneud cais. Gall hyn y hefyd annog cymunedau i roi gwybod inni am weithgareddau felly.  Rydym yn croesawu cynnwys gorsafoedd trosglwyddo.

 

34. Bydd swyddogaeth CNC yn gyfyngedig i ddilysu’r data ar y safleoedd, h.y. fod gorsafoedd trosglwyddo yn anfon mwy na 2,000TPA i safleoedd tirlenwi ac rydym yn gwneud hyn drwy ddefnyddio cofnodion sydd eisoes yn bod.

 

Swyddogaeth CNC

 

35. Mae gan CNC ran unigryw yn y broses o ddarparu TGT yng Nghymru gan mai hwn yw’r unig sefydliad y mae ARC yn bwriadu dirprwyopwerau iddo dan y TCMA. Rydym yn aelodau o’r Bwrdd Prosiect Polisi Gweithredol a’r Grŵp Arbenigwyr Technegol, ac mae cynllun i gael cynrychiolydd uwch ar y Bwrdd Rhaglenni.  

 

36. Byddwn yn cytuno ag ARC mewn Memorandwm  Dealltwriaeth blynyddol (MOU) sut y caiff adnoddau’r tîm eu targedu, a chaiff hynny ei osod allan a’i fonitro’n ffurfiol. Bydd y MOU hefyd yn gosod allan sut y byddwn yn datrys problemau. Rydym yn gweithio’n agos gyda Thîm y Trysorlys a’r Rhaglen ARC i sicrhau y gall y canlyniadau gweithredol, yn ôl ein profiad ni, gyd-fynd â’i amcanion polisi.

 

37.  Mae gan CNC eisoes bolisi gorfodi sy’n targedu adnoddau’n seiliedig            ar risg amgylcheddol. Er mwyn sicrhau na chaiff y swyddogaeth hon ei pheryglu, ein bwriad yw cyfyngu ein dyletswyddau TGT, ein pwerau a’n hadnoddau i dîm hollol ar wahân o fewn CNC.

 

38. Rhagwelwn fod angen trosolwg strategol o’r ffordd mae archwiliadau neu Ymholiadau TGT (o fewn ystyr adrannau 43 – 49 o TCMA) y cael eu rheoli i sicrhau na chaiff ein gallu i gyflawni ein swyddogaethau ei beryglu. Y tair swyddogaeth yw (i) CNC fel rheoleiddiwr amgylcheddol; (ii) CNC fel yr awdurdod refeniw a (iii) CNC yn sicrhau cydymffurfio a gorfodi. Rydym yn croesawu’r ymrwymiad i sefydlu grŵp ‘Llywodraethiant’.    

 

Hyderaf y bydd y sylwadau hyn yn fuddiol ichi. Os bydd gennych ragor o gwestiynau amdanynt, byddwch cystal â chysylltu â Clare McCallan, Rheolwraig Prosiect Treth Gwarediadau Tirlenwi clare.mccallan@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

 

 

Ceri Davies

Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedau